Member login:    Password:  Go
    log-out

engage Cymru

English     Cymraeg

engage Cymru

Er 1995 llwyddodd engage Cymru i ddenu arian ar gyfer prosiectau oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru. Bellach mae engage Cymru wedi ei sefydlu ei hun fel y prif sefydliad aelodaeth ar gyfer addysg orielau yng Nghymru ac mae ganddi dros 70 o aelodau, gan gynnwys addysgwyr orielau ac amgueddfeydd, athrawon, swyddogion awdurdodau lleol ac artistiaid. Mae engage Cymru yn hyrwyddo addysg drwy eiriolaeth, cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer grwpiau rhanbarth, rhwydweithio a digwyddiadau hyfforddiant datblygiad proffesiynol ynghyd â chynhadledd flynyddol a phrosiectau ymchwil.

Mae aelodau'n cael eu diweddaru'n gyson ynglŷn â newyddion a digwyddiadau engage drwy gyfrwng e-fwletin dwyieithog a thrwy ddigwyddiadau rhwydweithio a hyfforddi. Ewch i ymuno yn awr am fanylion ynglŷn ag aelodaeth engage.

Pwy yw engage Cymru?

Cydlynydd engage Cymru, Angela Rogers
Ffôn: 01834 870121 (Llun/Mercher/Iau) Symudol: 07773 856079
E-bost: cymru@engage.org.

Cynrychiolwyr Lleol
Eleri Wyn Evans, National Museums & Galleries of Wales, Cardiff
Honor Pedican, Wrexham Arts Centre, Wrexham
Victoria Tillotson, Ffotogallery, Cardiff

Aelodau gwirfoddol
Lisa Edgar, Ffotogallery, Cardiff
Gwenno Jones, Flintshire County Council, Mold
Helen Kozich, Oriel Davies Gallery, Newtown
Angela Rogers, engage Cymru, Tenby
Cath Sherrell, Aberystwyth Arts Centre, Aberystwyth
Mike Tooby, National Museums & Galleries of Wales, Cardiff

Adroddiadau

Orielau, celf weledol a'r blynyddoedd cynnar: gwerthusiad ymchwil gweithredol arbrofol, blwyddyn 1
Beth all artistiaid ac orielau gynnig i blant yn y Cyfnod Sylfaenol? Cychwynnodd ymarferwyr blynyddoedd cynnar yng Nghonwy a Gwynedd ar ddau brosiect ymchwil gweithredol byr gyda'r nod o ddarganfod pethau. Dyma beth a ganfuwyd ganddynt...
Lawr lwytho crynodeb o'r adroddiad (pdf)
Lawr lwytho'r adroddiad llawn (pdf)

gweithgareddau diweddar

Yn ystod 2006-07 cynhaliwyd tri seminar datblygiad proffesiynol ar Gwricwlwm y Cyfnod Sylfaenol newydd (3-7 mlwydd oed) gan engage Cymru. Yn ogystal cynhaliaodd engage Cymru ddau brosiect ymchwil mewn partneriaeth ag Adrannau Blynyddoedd Cynnar Gwynedd a Chonwy, yn archwilio effaith gweithio ochr yn ochr ag artistiaid mewn orielau ac ysgolion fel ei gilydd ar blant rhwng 3-5 mlwydd oed. Yn ogystal mae'r prosiectau hyn wedi archwilio sut y gall hyn fod o fantais i'r Cyfnod Sylfaenol. Bydd adroddiad ar gael ym mis Mai 2007, i'w lawr lwytho o'r wefan hon.

trefniadau ar gyfer y dyfodol

Yn ystod 2007-08 bydd engage Cymru yn gweithio mewn partneriaeth a thri awdurdod lleol ychwanegol, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Adrannau Blynyddoedd Cynnar Wrecsam i ymchwilio i dri phrosiect arall mewn cydweithrediad â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Myrddin a Chanolfan Celfyddydau Wrecsam. Cynhelir cynhadledd flynyddol engage Cymru "Ymrwymo'r Blynyddoedd Cynnar", yn Oriel Myrddin yng ngwanwyn 2008.

Bydd engage Cymru yn rhedeg tri seminar hyfforddi datblygiad proffesiynol "Celf a'r Cwricwlwm Cymreig" hefyd mewn lleoliadau orielau ledled Cymru yn ystod misoedd Hydref /Tachwedd 2007. Daw mwy o fanylion cyn bo hir.

Gweler y bas data digwyddiadau am fanylion rhaglenni sydd i ddod.

Bydd engage Cymru yn parhau i gyd gysylltu ag asiantaethau'r Llywodraeth ac asiantaethau sy'n allweddol i hyrwyddo arfer da a chyflwyniad effeithiol mewn addysg oriel gan sicrhau ffocws sy'n wybodus ac ymatebol yng Nghymru, ac yn cynnig adborth i ymchwil a datblygiadau allweddol aelodau.

arianwyr

Mae engage Cymru yn ddiolchgar am gefnogaeth prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Maent hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth gan Gyngor Sir Conwy yn 2006-07 ar gyfer prosiectau ymchwil a Cheredigion, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam am brosiectau ymchwil 2007-08.

Hoffai engage Cymru gydnabod y "gefnogaeth drwy garedigrwydd" mae'n ei dderbyn oddi wrth swyddfa engage Llundain.

manylion cyswllt:

Cyd-lynydd engage Cymru:
Angela Rogers
34 Ffordd Dewing
Maenorbŷr
Sir Benfro
SA70 7TS
Ffôn: 01834 870121 Llun/Mercher/Iau) / 07773 856079
E-bost: cymru@engage.org     Gwefan: www.engagecymru.org.uk.

engage
E-bost: info@engage.org
Ffôn: +44 (0)20 7490 4690
Gwefan: www.engage.org
Suite AG, City Cloisters 196 Old Street London EC1V 9FR

 

Top of page

Carmarthenshire         Conwy         Gwynedd         Rhyddid         Wrexham

Arts Council of Wales         Welsh Assembly Government - Lywodraeth Cynulliad Cymru
The National Lottery, through the Arts Council of Wales