Cyrraedd y Nod: Troedle Cyntaf
Gwaith celf a wnaed gan unigolyn ifanc yn ystod prosiect Cyrraedd y Nod yn Oriel gyda'r artist Tom Goddard
Cyrraedd y Nod oedd menter Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi ei anelu at ostwng y nifer o bobl ifanc yng Nghymru rhwng
11 a 19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), neu sydd mewn perygl o fod felly. Datblygwyd y
prosiect er mwyn manteisio ar y cyfleoedd ariannu sydd ar gael o raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yng Nghymru.
Canolbwyntiodd Troedle Cyntaf ar fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny sy'n atal pobl ifanc rhag aros yn yr ysgol a symud
ymlaen at addysg bellach neu gyflogaeth. Derbyniodd engage Cymru wobr gwerth £24,950 i reoli pedwar lleoliad gwirfoddol
ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant, mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin, Caerfyrddin a
Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth. Gweithiodd y ddau safle ochr yn ochr ag unedau cyfeirio a rhwydweithiau cymorth
ieuenctid i ddyfeisio rhaglenni gwaith perthnasol ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys curadu, gwaith technegol, helpu
i ddatblygu addysg oriel sy'n hwylus i ieuenctid.
Yn ogystal â datblygu sgiliau creadigol a gweithle, cafodd pobl ifanc sgiliau a buddion eraill, gan gynnwys:
- Gweithio fel rhan o dîm
- Presenoldeb rheolaidd a chyfrifoldeb cynyddol
- Sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cwrdd â therfynau amser
Rhedodd y prosiect hyd fis Rhagfyr 2010 a ac mae adroddiad gwerthuso ar gael fan
hyn.
Am fanylion am raglen Gwreiddiau Gweledol / Visual Roots engage (2008-10, Lloegr) a oedd yn gweithio gyda phobl
ifanc mewn perygl, cliciwch yma.
