Member login:    Password:  GoReminder

engage Cymru

English    Cymraeg

engage Cymru

Seminarau ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol y Celfyddydau ac Iechyd
‘Orielau, Celfyddydau ac Iechyd’

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2011: Canolfan Grefftau Rhuthun, Sir Ddinbych
Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2011: Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd

Rhannodd y seminarau hyn ddeilliannau dysgu prosiectau celfyddydau ac iechyd partneriaeth engage Cymru ac orielau gyda phobl hŷn, ac archwilio'r cyd-destun ehangach ac effaith creadigrwydd ar iechyd a lles.

Dywedodd y rhai a gymerodd ran:

“Dyma'r cwrs mwyaf pleserus i mi ei fynychu eleni yn bendant” (cynrychiolydd o Gaerdydd)

“Diwrnod hyfryd! Diolch i bawb a oedd yn rhan ohono - prosiectau ysbrydoledig...” (cynrychiolydd o Ruthun)

“Mae'r gwaith rydych yn ei wneud yn fendigedig ac rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd yn y dyfodol. Os gallaf wneud unrhyw beth i'ch cefnogi ac yn enwedig, hwyluso mwy o rwydweithio rhwng pobl sydd o'r un feddwl, cysylltwch â ni.” (Clive Parkinson, Cyfarwyddwr Celfyddydau ar gyfer Iechyd, Prifysgol Fetropolitan Manceinion)

Siaradwyr:

  • Artistiaid y prosiect Jan Gardner a Felicity Owens
  • Clive Parkinson, Cyfarwyddwr Celfyddydau ar gyfer Iechyd ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion, y sefydliad celfyddydau ac iechyd hynaf yn y DU
  • Andrew Newman ac Anna Goulding o adran Ymchwil i'r Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Newcastle, ar ailfeddwl polisi ac arfer ac adeiladu hunaniaeth pobl hŷn.


 

Jan Gardner
Jan Gardner
 

Clive Parkinson
Clive Parkinson

Sponsors' logos

 

 

Join engage Now