Cefndir
Disgrifiad
Menter dros dro oedd Explore i wella mynediad i orielau i bobl anabl a byddar. Ariennid hi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Syr Jules Thorn drwy
Brosiect Arbennig Ann Rylands ac roedd yn bodoli rhwng Gorffennaf 2007 a Chwefror 2009. Datyblygwyd a rheolwyd y prosiect ar y cyd gan engage,
y Gymdeithas Genedlaethol dros Addysg Orielau, a
Shape, sef corff y celfyddydau i'r anabl o Lundain.
Mae Shape yn gweithio gydag artistiaid anabl a byddar, yn cynghori'r sector diwylliant wrth sicrhau mynediad at eu gwasanaethau a chefnogi
pobl anabl a byddar i allu mynychu lleoliadau a digwyddiadau celfyddydol. Ariennir y ddau gorff o ffynonellau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys
Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Cyflwnodd y prosiect bobl anabl i fwynhau celf weledol ac orielau, gan addysgu a chefnogi orielau ac artistiaid ar yr un pryd i fabwysiadu
arfer da ar gyfer ymwelwyr anabl a byddar.
Roedd y naw oriel a gymerodd ran yn y DU yn
- Cynnig rhaglen o weithdai celfyddydau gweledol creadigol i bobl anabl a byddar;
- Cael rhaglen o hyfforddiant a chefnogaeth i'w staff ac artistiaid gan gynnwys Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd, archwiliad mynediad i bob
lleoliad, hyfforddiant i artistiaid a gweithdy ar Gynllunio Gweithredu ar Anabledd.
Roedd orielau yn gwneud cais i gymryd rhan yn y rhaglen mewn clystyrau rhanbarthol. Dyma'r rhai a ddewiswyd:
Cymru Oriel Davies, Canolbarth Cymru; Oriel Wrecsam, Gogledd Cymru; Oriel Mostyn, Gogledd Cymru
Gorllewin Canolbarth Lloegr Ikon, Birmingham; The New Art Gallery, Walsall; Compton Verney, Swydd Warwick
Llundain Four Corners; Space
Nod ac amcanion y Rhaglen
Anelai Rhaglen Explore 2007-2008 at gynyddu mynediad gan bobl anabl a byddar i orielau celfyddydau gweledol a chael mwynhad ohonynt drwy
- Gefnogi prosiectau creadigol sy'n cyflwyno pobl anabl a byddar i orielau celfyddydau gweledol yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru;
- Gweithio gydag wyth lleoliad i ddatblygu'u gwaith gyda phobl anabl a byddar a'r cyfleoedd i'r bobl hynny;
- Cynnwys pobl anabl a byddar ym mhob agwedd ar y prosiectau, ac yn benodol mewn gweithareddau celfyddydol;
- Gwerthuso'r profiad, cnoi cil arno a dysgu ganddo gyda'r sawl roedd a wnelont â'r prosiectau;
- Lledaenu'r dysgu trosglwyddadwy drwy gyhoeddiad am gynnwys pobl anabl a byddar yn rhaglenni'r orielau
Canlyniadau a chyflawniadau allweddol
Buddion uniongyrchol a chynaliadwy
Mae Explore wedi galluogi i'r partneriaid ymchwilio i'r materion sy'n codi a'r newidiadau y gellid bod angen eu gwneud ar arferion orielau
ar hyn o bryd, er mwyn cynnig lefel gynaladwy o fynediad da i ymwelwyr anabl a byddar.
Mae pob oriel sy'n cymryd rhan wedi dechrau gwenud addasiadau ar eu harferion a'u cyfleusterau, ac maent wrthi'n cynllunio gyda datrysiadau
tymor byr, canolig a hir mewn golwg. Er enghraifft, mae orielau bellach yn cynnig gwybodaeth a gwasanaethau mewn fformatau eraill fel mater
o drefn, yn cynnig dehongliad yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ym mhob digwyddiad cyhoeddus, ac yn diweddaru technegau marchnata i sicrhau
cyfathrebu da gyda chynulleidfaoedd anabl a byddar, ac yn adolygu neu'n ysgrifennu Cynlluniau Gweithredu ar Anabledd.
Mae'r orielau wedi dysgu drwy cyflwyno prosiectau celfyddydol ymarferol, a thrwy'r agweddau amrywiol ar y rhaglen hyfforddi. Ymddengys fod
y buddsoddi yn agweddau hyfforddiant y rhaglen wedi bod yn hanfodol mewn cychwyn newid sefydliadol.
Mae pob oriel yn adrodd am newid agwedd yn eu sefydliad a mwy o ymwybyddiaeth o faterion mynediad. Mae hyn yn bennaf oherwydd y ffaith fod
elfennau o'r rhaglen hyfforddiant wedi eu mynychu gan ystod o staff o bob sefydliad, yn ogystal â'r unigolyn alweddol a oedd yn gweithio ar Explore.
Mae'r rhan fwyaf o'r orielau wedi cynnal a datblygu'r cysylltiadau a wnaethant yn ystod y rhaglen gydag artistiaid, cyrff anabledd a
chyfranogwyr. Mae pump o'r wyth oriel yn darparu prosiectau a gweithdai pellach i'r cyfranogwyr roeddent yn gweithio gyda hwy yn ystod
Explore. Mae dwy o'r orielau hyn wedi cael arian ar gyfer y gweithgareddau hyn ar sail eu cyflawniadau wrth gymryd rhan yn rhaglen Explore.
Mae gan bob oriel bellach set well o gysylltiadau ar gyfer eu cyrff celfyddydau anabl a'u cyrff anabledd lleol, ac maent yn fwy hyderus
wrth fynd ati gyda materion mynediad.
Maes o law, bydd yn eglurach sut bydd Llawlyfr Explore yn cael effaith ar sector y celfyddydau gweledol. Mae cyfran fawr o'r Llawlyfr yn
cynnyws darnau allweddol o gyngor hanfodol fydd ag ystyr a phwysigrwydd am flynyddoedd i ddod, ac mae'r ddau bartner yn hyderus y bydd hyn
yn creu buddion cynaliadwy i gyrff celfyddydol ac yn ei dro i bobl anabl a byddar.
Crynodebau o brosiectau'r orielau a diweddariadau
Cliciwch ar yr orielau isod am fanylion prosiectau a'r newyddion diweddaraf:
Beth sydd wedi digwydd yn yr orielau ers i Explore ddod i ben?
Ikon, Birmingham
Rhaglenni i ymwelwyr byddar Mae Ikon bellach yn rhaglennu digwyddiadau gyda BSL ac wedi sylwi ar gynnydd mewn ffigyrau ymwelwyr byddar a nam
ar eu clyw. Mae Ikon yn cyflogi artistiaid byddar i arwain teithiau a digwyddiadau, gan gynnwys un o'r artistiaid roeddent yn gweithio ag ef
yn ystod Explore.
Datblygu partneriaeth Mae Ikon yn parhau i ddatblygu eu partneriaeth gyda Chanolfan Ddiwylliannol y Byddar yn Birmingham yr oeddent wedi
gweithio gyda hwy ar Explore, gan gyfarfod i rannu arbenigedd a chynnig cyngor, gyda'r bwriad y bydd Ikon yn gwella'r hyn a gynigir ganddynt i gynulleidfaoedd byddar a nam ar eu clyw.
Prosiect newydd Drwy'r cysylltiadau a wnaed yn ystod Explore gydag artistiaid, cyrff celfyddydol yr anabl ac orielau eraill, bydd Ikon yn
cymryd rhan mewn partneriaeth gyda DASh (Disability Arts Shropshire) ar brosiect o'r enw Outside IN. Menter tair blynedd yn y celfyddydau
gweledol yw hon sy'n gweithio gyda grŵp o orielau ar draws Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr i hyrwyddo a datblygu artistiaid, cynulleidfaoedd
a chyfranogwyr anabl a byddar yn sector y celfyddydau gweledol.
Lledaenu i orielau eraill Mewn seminar Engage Cymru fis Mawrth, bydd Ikon yn cyflwyno astudiaeth achos ar eu gwaith ar Explore i orielau ar
hyd a lled Cymru, gan amlygu canlyniadau dysgu allweddol a rhannu arfer da.
The New Art Gallery Walsall, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Hyfforddi staff a pharhau â chodi ymwybyddiaeth Comisiynodd yr oriel yr artist roeddent yn gweithio ag ef i gynhyrchu pecyn adnoddau ar
gyfer eu tîm blaen tŷ. Roedd y pecyn hwn, a diwrnod hyfforddiant yn Ebrill 2009, wedi'u hanelu'n benodol at gynorthwyo staff yr oriel i
wella'u gwasanaethau i ymwelwyr gydag anawsterau dysgu.
Datblygu strategol Mae'r oriel yn defnyddio'r Archwiliad Mynediad a'r hyfforddiant a gynigir i sicrhau ei bod yn cwblhau Cynllun Gweithredu
ar Anabledd yn unol â gofynion Cyngor y Celfyddydau.
Lledaenu i orielau eraill Mewn diwrnod hyfforddiant a drefnir gan engage, bydd yr oriel yn cyflwyno astudiaeth achos o'u gwaith ar Explore
i orielau o'r DU yn ei chyfanrwydd, gan amlygu canlyniadau dysgu a rhannu arfer da gydag orielau na chymerodd ran yn Explore.
Rhaglenni i ymwelwyr dall a nam ar eu golwg Mae'r oriel yn cymryd rhan mewn rhaglen ledled y DU o'r enw Art Speaking, a drefnir gan Art-Sense,
sef elusen sy'n hyrwyddo gwerthfawrogiad aml-synhwyrol ar gelf. Bydd yr oriel yn cynnig tair taith gyda disgrifiad clywedol yn benodol i bobl
ddall a nam ar eu golwg.
Prosiect newydd Drwy'r cysylltiadau a wnaed yn ystod Explore gydag artistiaid, cyrff celfyddydol yr anabl ac orielau eraill, bydd yr oriel yn
cymryd rhan mewn partneriaeth gyda DASh (Disability Arts Shropshire) ar brosiect o'r enw Outside IN. Menter tair blynedd yn y celfyddydau
gweledol yw hon sy'n gweithio gyda grŵp o orielau ar draws Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr i hyrwyddo a datblygu artistiaid, cynulleidfaoedd
a chyfranogwyr anabl a byddar yn y sector celfyddydau gweledol.
Compton Verney, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Datblygu strategol Mae gan Compton Verney Bwyllgor Cydraddoldeb Anabledd erbyn hyn. Bydd y pwyllgor yn mynd ymlaen â'r wybodaeth yn yr Archwiliad
Mynediad ac o'r hyfforddiant a gafwyd yn ystod Explore i lunio Cynllun Gweithredu ar Anabledd.
Parhau â hyfforddi staff Bydd Compton Verney yn ymgorffori Cydraddoldeb Anabledd a Disgrifiad Clywedol yn y rhaglen ymsefydlu i'r staff tymhorol
a gymerir bob blwyddyn.
Cadw'r berthynas gyda chyfranogwyr Explore Rhoddodd Compton Verney aelodaeth am ddim i gyfranogwyr prosiect Explore, ac mae rhai ohonynt erbyn
hyn yn ymwelwyr rheolaidd.
Oriel Mostyn, Gogledd Cymru
Cadw'r berthynas gyda chyfranogwyr Explore Gyda chefnogaeth Gwobr Beacon, bydd Oriel Mostyn yn ymestyn ei waith gyda chyrff anabledd lleol a'r
artistiaid roeddent yn gweithio â hwy yn ystod Explore.
Gwelliannau ar y wefan Cyfieithir yr holl wybodaeth ar-lein i BSL.
Oriel Davies, Canolbarth Cymru
Datblygu strategol Mae Oriel Davies wrthi'n drafftio Cynllun Gweithredu ar Anabledd. Bydd y camau ynddo yn cynnwys mân newidiadau i'r adeilad,
gwefan newydd, yn ogystal â datblygu deunyddiau adnoddau a dehongliadol hawdd cael gafael arnynt.
Prosiect newydd Drwy'r cysylltiadau a wnaed yn ystod Explore gydag artistiaid, cyrff celfyddydol yr anabl ac orielau eraill, bydd Oriel Davies yn
cymryd rhan mewn partneriaeth gyda DASh (Disability Arts Shropshire) ar brosiect o'r enw Outside IN. Menter tair blynedd yn y celfyddydau gweledol
yw hon sy'n gweithio gyda grŵp o orielau ar draws Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr i hyrwyddo a datblygu artistiaid, cynulleidfaoedd a
chyfranogwyr anabl a byddar yn sector y celfyddydau gweledol.
Oriel Wrecsam, Gogledd Cymru
Mwy o weithdai a pharhau â pherthnasoedd Mae'r oriel wedi cael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gyflwyno mwy o brosiectau fel Explore gyda
phobl anabl a phobl dan anfantais. Byddant yn cynnal 32 o weithdai rhwng Mawrth a Gorffennaf ac yn gweithio gyda rhai o'r un bobl o Explore, ond
yn gweithio hefyd gyda'r rhai a fynegodd ddiddordeb yn Explore ond na allent gymryd rhan.
Gwelliannau i gyfleusterau ac adeiladau Bydd y bwriad i ailwampio'r adeilad yn defnyddio canfyddiadau'r Archwiliad Mynediad a gynhaliwyd fel rhan
o Explore.
Datblygu partneriaeth a hyfforddi staff Ers Explore, mae'r oriel wedi bod mewn partneriaeth â Chymdeithas y Byddar Gogledd Cymru, a fydd yn
hysbysu'r hyfforddiant a'r gwelliannau i gyfleusterau er budd ymwelwyr byddar a nam ar eu clyw.
SPACE, Llundain
Parhau â'r berthynas gyda chyfranogwyr Explore Mae Space wedi rhaglennu gweithdy arall gyda'r ysgol i'r byddar a'r artist byddar roeddent yn
gweithio â hwy. Bydd hyn yn rhan o ŵyl gelfyddydau ieuenctid flynyddol yn Hackney, a fydd yn sicrhau y bydd y myfyrwyr byddar yn cymryd rhan mewn
darpariaeth ddiwylliannol y brif ffrwd.
Ymwybyddiaeth uwch oddi mewn i'r corff Mae 'Mynediad' bellach yn eitem ar bob agenda yng nghyfarfodydd Space.
Datblygu strategol Mae Space yn defnyddio'r adroddiad Archwiliad Mynediad yn sail ar gyfer diweddaru eu Cynllun Gweithredu ar Amrywiaeth, a
fydd yn cynnwys anabledd a mynediad.
Four Corners, Llundain
Parhau â'r berthynas gyda chyfranogwyr Explore Mae Four Corners wedi sicrhau ariannu gan Awards for All i adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd
ganddynt yn ystod Explore, a byddant yn gweithio eto gyda'r artist anabl a'r cyfranogwyr anabl ar brosiectau mewn mwy o ddyfnder.
Cymynrodd Explore
Cyhoeddwyd Llawlyfr Explore yn Ionawr 2009.
Cliciwch i lwytho i lawr y datganiad i'r wasg
yn English
neu Welsh
Digwyddiad Lansio
Lansiodd engage a Shape y cyhoeddiad Llawlyfr Explore yn Ionawr 2009. Roedd Tate Britain mor garedig â chynnal yr achlysur, y bu cydweithwyr
yn y celfyddydau gweledol, y celfyddydau anabl a byddar, arianwyr a llunwyr polisi wrthi'n dathlu ynddo. Siaradodd yr Ymgynhorydd Mynediad,
Michèle Taylor, am fuddion potensial y cyhoeddiad gan ysbrydoli'r gwesteion i dderbyn y cyngor sydd ynddo a gweithredu arno.
 |
 |
| |
 |
 |
| Ffotograffiaeth gan Simon Stephen |
Cysylltiadau
Explore
Katy Culbard
Cydlynydd Explore (Llun/Mawrth/Mercher)
Shape
Catherine Hawes
Senior Celfau Datblygiad Manager
Shape
Deane House Studios
27 Greenwood Place
London NW5 1LB
Ffon 020 7424 7346
Minicom 020 7242 7330
Ffacsia 020 7242 7369
E-bost cath@shapearts.org.uk
Gwefan www.shapearts.org.uk
engage
Laura Cherry
Swyddog Cyfathrebu
engage, Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysg Oriel
Ffôn 020 7729 5858
E-bost laura.cherry@engage.org
Gwefan www.engage.org